
Mae yma 3 bwthyn gwyliau ar agor drwy'r flwyddyn:-
- Llofftstabal - ar y llawr cyntaf ag yn cysgu 4, hen lofft lle byddai'r gweision fferm yn cysgu erstalwm
- Ysgubor - addas i bobol mewn cadair olwyn ag yn cysgu 7
- Stabal - mae ystafell wely i lawr grisiau yma hefyd ond mae 4 stepan i fynd i mewn i'r bwthyn sy'n cysgu 5.
Fferm biff, defaid a chropiau yng nghanol Penrhyn Llyn ydi Crugeran. Rydym ar ffordd y B4413 sy'n hollti'r penrhyn wrth fynd o Aberdaron i Bwllheli ger pentre Sarn Meyllteyrn.
Rydym yn deulu Cymraeg ag yn brysur yn gymdeithasol/ddiwyllianol yn yr ardal, ag rydym yn mwynhau siarad am ein ffordd o fyw gyda'n gwesteion gan fod nifer yn dangos diddordeb yn y ffordd Gymreig ar diwylliant Cymreig. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer fwy o Gymry(Cymraeg a di-Gymraeg) yn dod yma i aros. Mae Pen LLyn yn ardal fendigedig i ymweld a hi am wyliau, ag nid yw'n rhy bell i deithio iddi o unrhyw ran o Gymru.
Rydym yn falch iawn o safon ein bythynnod ag yn ceisio ein gorau rhoi croeso cynnes a gwyliau cofiadwy i'n gwesteion. Peth braf ydi cael dweud fod nifer fawr (bron iawn i 70%) o bobol yn dod yn ol bob blwyddyn neu yn dweud wrth deulu a ffrindiau am Crugeran.
Felly peidiwch ag oedi - ewch i astudio ychydig mwy ar y wefan cyn dod draw yma am wyliau.
|