Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o wahoddedigion sy’n dod i aros hefo ni i ddathlu penblwyddi, penblwyddi priodas neu ddod at ei gilydd yn ffrindiau a theulu yn gyffredinol. Rydym hyd yn oed wedi cael gwledd briodas neu ddwy yn Deri a Gadlas.

Gall Deri a Gadlas gael eu cyfuno yn un bwthyn mawr i 24 o bobl, neu gall 16 o bobl aros yma yn y tri bwthyn ar fferm Crugeran.

Gallwn drefnu:

• Cwmni Arlwyo

• Cacennau Dathlu

• Grŵp Gwerin Lleol

• Tacsis

• Rhywbeth Arall - fe wnawn ein gora

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn Crugeran
Cysylltwch â ni i archebu eich gwyliau!